Parc Carafannau a Gwersylla
BODOWYR
Caravan & Camping Park
Croeso 
Mae Bodowyr yn barc carafanau teithio a gwersylla cynnes a chroesawgar sy’n cael ei redeg gan deulu, wedi’i leoli ar fferm wledig o fewn pellter cerdded i bentref Bodedern, Ynys Môn. Mae’n lleoliad delfrydol i’r rhai sy’n dymuno dod i fwynhau’r hyn sydd gan Ynys Môn ac Eryri gerllaw i’w gynnig.
Mae ein parc carafanau teithio a gwersylla yn addas ar gyfer unigolion, cyplau a theuluoedd sy’n chwilio am safle sydd nid yn unig yn heddychlon ond sydd hefyd â digon i’w gynnig i’w westeion. Wedi’i wasgaru ar draws 6 erw, gallwn groesawu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll. Gallwn hefyd ddarparu lleiniau tymhorol, yn ogystal â storfa trwy gydol y flwyddyn.
Os nad yw carafanio a gwersylla at eich dant, beth am archebu arhosiad yn ein caban hunanarlwyo.
Carafanio a Gwersylla
Wedi'i wasgaru ar draws 6 erw o dir, mae Bodowyr yn croesawu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll ar gyfer arhosiad byr ynghyd â lleiniau tymhorol.
Hunanarlwyo
Wedi'i leoli mewn amgylchedd gwledig ychydig bellter o'r prif barc, mae ein caban hunanarlwyo yn gyfle perffaith i deuluoedd ddianc rhag popeth.
Amwynderau’r Parc
Mae gan y parc gyfleusterau gwych gyda bloc cawodydd mawr a thoiledau a golchdy cyfagos, sy'n cynnwys cyfleusterau golchi llestri. Mae digonedd o gysylltiadau trydanol, ble gellir cysylltu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll.
Mae yna hefyd ardal chwarae ragorol i'r plant gyda llithrennau, siglenni a rowndabowt, yn ogystal â chae pêl-droed. Mae taith gerdded ar lan y llyn yn cynnig cyfle i bysgota neu gyfle i ymlacio a mwynhau gwylio'r bywyd gwyllt sy'n cynnwys ystod eang o rywogaethau adar.


