Carafanio a Gwersylla
Wedi’i wasgaru ar draws 6 erw o dir, mae Bodowyr yn croesawu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll ar gyfer arhosiad byr ynghyd â lleiniau tymhorol.
Mae llawer o’n lleiniau yn cynnig golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd Eryri a’r dirwedd wledig hardd o’i chwmpas.
Mae ein lleiniau gwersylla a charafanau teithio yn leiniau glaswellt yn bennaf gyda chysylltiadau trydanol, ond mae gennym ni 3 llain galed gyda thrydan ar gael ar gyfer carafanau teithio.
Mae 8 pwynt dŵr wedi’u lleoli o amgylch y safle ac un prif bwynt gwaredu cemegol.
Adnewyddwyd ein bloc cawodydd a thoiledau yn 2018 ac fe’u cynhelir i safon uchel. Mae pob cawod mewn ciwbicl preifat y gellir ei gloi gyda lloriau gwrthlithro.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhagorol i’n gwesteion. Ar ôl cyrraedd ein parc, byddwn yn cwrdd â chi, yn eich tywys i’r llain o’ch dewis ac yn eich cynorthwyo gyda lle i osod eich carfan neu babell, gan sicrhau bod o leiaf 20 troedfedd rhyngoch chi a’r ymwelydd drws nesaf.
Lleiniau Tymhorol
Cael llain dymhorol ar gyfer eich carafán deithio yw’r ffordd ddelfrydol o archwilio ynys hardd Môn yn fwy manwl heb yr ymrwymiad a’r gost tymor hwy o brynu cartref gwyliau. Gadewch eich carafán deithio ar lain trwy gydol y tymor heb orfod poeni am ei halio, costau tanwydd na’r angen i archebu gwyliau ymlaen llaw.
Mae Bodowyr yn cynnig 70 llain dymhorol lefel, wedi’u lleoli dros chwe ardal ar wahân. Mae 35 ar lawr caled. Rydym hefyd yn cynnig storfa dros gyfnod y gaeaf felly nid oes angen i chi halio na dod o hyd i gyfleuster storio ychwanegol y tu allan i’r tymor.
Yn achlysurol, bydd lleiniau tymhorol yn dod ar gael. Cysylltwch â ni os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr aros.
Ymhlith y cyfleusterau ar y safle mae:
- Bloc toiled i ddynion gyda 4 ciwbicl cawod cyfagos
- Bloc toiled i ferched gyda 4 ciwbicl cawod cyfagos
- 2 giwbicl ymolchi personol
- Cawod a thoiled i’r anabl
- Ardal golchi llestri
- Peiriant golchi a sychwr dillad sy’n gweithio gyda darnau arian
- Pwynt gwaredu gwastraff cemegol a gwastraff llwyd
- Man Chwarae Plant a chae mawr glaswelltog.
- Taith gerdded ar lan y llyn
- Taith Gerdded Amgaeedig i Gŵn
- Ardal Ailgylchu a Gwastraff Cyffredinol
Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y safle, ond rydyn ni’n gofyn bod pob ci yn cael ei gadw ar dennyn bob amser. Dim mwy na 2 gi fesul llain.
Trefniadau Archebu
Mae’r wefan ar agor ar gyfer archebion rhwng mis Mawrth a Hydref 2022.
Gellir archebu ar-lein (y dull a ffafrir) neu dros y ffôn.
Oherwydd galw mawr, rydym yn cynghori eich bod yn archebu ymlaen llaw, yn enwedig yn ystod y tymor prysur.
Rydym yn darparu ar gyfer unigolion, teuluoedd a chyplau ond nid ydym yn derbyn archebion grŵp mawr. Rhaid i bob teulu neu gwpl archebu eu llain eu hunain – ni dderbynnir archebion trydydd parti.
Ar adeg archebu, bydd angen eich manylion cyswllt llawn, ynghyd â blaendal na ellir ei ad-dalu. Mae balans talu eich gwyliau yn ddyledus wrth gyrraedd neu 14 diwrnod cyn cyrraedd yn ystod y tymor prysur a gwyliau’r banc.