bodowyrcaravansite@gmail.com

Tel: 07484 293174

 Amdanom Ni

Fe symudom i Fodowyr o bentref lleol Bodedern ym 1990. Gyda’r amgylchoedd tawel roeddem yn gwybod bod llawer o botensial yma ac roeddem am rannu ein gofod arbennig ag eraill. Dechreuon ni fel atyniad fferm agored yn wreiddiol, ond rydyn ni bob amser wedi bod ag angerdd teuluol am garafanio. Yn treulio pob gwyliau haf yn teithio ar hyd a lled y DU gyda’n carafán, yn aros mewn llu o wahanol safleoedd CL ar hyd y ffordd, roedd yn gwneud llawer o synnwyr pan benderfynon ni agor ein gatiau fel Parc Carafanau a Gwersylla ym 1993.

Dechreuom gyda 5 llain ac wrth i’r galw gynyddu, fe wnaethon ni ehangu gwahanol rannau o’r fferm yn raddol i ddarparu ar gyfer mwy o leiniau gyda chysylltiad trydanol a lleiniau caled. 10 mlynedd yn ôl, fe benderfynon ni gynnig cyfle i’n cwsmeriaid gadw eu llain eu hunain am dymor. Heddiw mae gennym gyfanswm o 90 o leiniau i gyd, y mae 70 ohonynt yn leiniau tymhorol.

Ein prif ffocws erioed oedd creu amgylchedd cyfeillgar, hamddenol gyda digon o le naturiol i fwynhau’r amgylchoedd a’r golygfeydd hyfryd. Dros y blynyddoedd rydym wedi plannu cannoedd o goed a gwrychoedd, wedi creu cynefinoedd i fywyd gwyllt ffynnu a chymryd rhan mewn sawl cynllun gwella’r amgylchedd. Yn 2001 fe wnaethon ni ychwanegu’r llyn, i greu’r hyn sydd bellach yn ofod hardd i’n gwersyllwyr fynd am dro a dadflino yng nghanol natur. Rydym wedi gweithio’n galed i ddiweddaru ac ymestyn ein cyfleusterau yn barhaus fel y gall ein cwsmeriaid fwynhau hyd yn oed mwy ar eu harhosiad gyda ni.

Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yma ac rydyn ni’n gwybod y byddwch chi’n mwynhau aros ym Modowyr gymaint ag rydyn ni’n caru bod yma.

 

Carafanio a Gwersylla

Wedi'i wasgaru ar draws 6 erw o dir, mae Bodowyr yn croesawu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll ar gyfer arhosiad byr ynghyd â lleiniau tymhorol.

Hunanarlwyo

Wedi'i leoli mewn amgylchedd gwledig ychydig bellter o'r prif barc, mae ein caban hunanarlwyo yn gyfle perffaith i deuluoedd ddianc rhag popeth.

Amwynderau’r Parc

Mae gan y parc gyfleusterau gwych gyda bloc cawodydd mawr a thoiledau a golchdy cyfagos, sy'n cynnwys cyfleusterau golchi llestri. Mae digonedd o gysylltiadau trydanol, ble gellir cysylltu carafanau teithio, cartrefi modur a phebyll.

Mae yna hefyd ardal chwarae ragorol i'r plant gyda llithrennau, siglenni a rowndabowt, yn ogystal â chae pêl-droed. Mae taith gerdded ar lan y llyn yn cynnig cyfle i bysgota neu gyfle i ymlacio a mwynhau gwylio'r bywyd gwyllt sy'n cynnwys ystod eang o rywogaethau adar.