Amwynderau’r Parc
Rydym yn ymfalchïo yn yr amwynderau a gynigiwn yma ym Modowyr.
Mae cysylltiadau trydanol a lleiniau caled ar gael ar gyfer nifer fawr o’n lleiniau carafanio a gwersylla.
Darperir cawodydd a thoiledau gerllaw ac maent yn cael eu glanhau a’u cynnal yn rheolaidd i safon uchel.
Rydym hefyd yn darparu cyfleusterau golchi dillad ac ystafell ymolchi felly does dim angen poeni am lestri a dillad budr.
Mae yna hefyd ddigon i ddiddanu’r teulu cyfan ar y parc.
Mae’r llyn ar y safle yn darparu cyfleoedd pysgota rhagorol ac mae stoc dda o ruddbysgod, cochiaid a draenogiaid dŵr croyw ynddo. Mae’r llyn hefyd yn lle delfrydol i ddod i ymlacio a mwynhau’r haul yn machlud yng nghwmni ein bywyd gwyllt preswyl ac amrywiaeth wych o rywogaethau adar gwyllt.
I’r plant gael chwarae ac archwilio, mae gennym fan chwarae rhagorol sy’n cynnwys llithrennau, siglenni a rowndabowt, yn ogystal â chae pêl-droed.
