bodowyrcaravansite@gmail.com

Tel: 07484 293174

Lleoedd i Ymweld â nhw

Beth bynnag fo’ch diddordeb, mae Ynys Môn yn cynnig digonedd o leoedd yr hoffech ymweld â nhw yn ystod eich arhosiad yma ym Modowyr.

Mae safle Carafanau a Gwersylla Bodowyr wedi’i leoli ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, Gogledd Cymru o fewn pellter byr i brif atyniadau’r ynys ond eto’n ddigon agos i’r rhai sy’n dymuno crwydro ychydig ymhellach i’r tir mawr tuag at Eryri, a Chaernarfon.

Mae gan Ynys Môn doreth o weithgareddau i’w cynnig p’un a yw’n hwyl i’r teulu, yn ymweliad ag amgueddfeydd cyfagos, safleoedd treftadaeth neu’n ddiwrnod allan i’r traeth, rydych yn sicr o ddod o hyd i rywbeth i’ch difyrru yn ystod eich arhosiad. Dynodir y rhan fwyaf o arfordir Ynys Môn yn A.A.S. (Ardal Amgylcheddol Sensitif) gan ei gwneud yn fan poblogaidd ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ac adar.

Dyma rai dolenni defnyddiol o bethau i’w gwneud a lleoedd yr hoffech ymweld â nhw yn ystod eich arhosiad. Mae dewis da o daflenni gwybodaeth hefyd ar gael ar y safle.

Ymwadiad

Sylwch nad ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y gwefannau annibynnol a restrir isod.

HANES LLEOL / TIRNODAU HANESYDDOL / DIWYLLIANT / TREFTADAETH

Llwybr Arfordir Ynys Môn

Mae llwybr Arfordir Ynys Môn yn 124 milltir (200 km) sy’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghaergybi mewn dolen wrthglocwedd gan ddefnyddio’r rhwydwaith presennol o lwybrau cyhoeddus.

Mae’n rhedeg o fewn hyd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt fel y frân goesgoch, morloi llwyd, lafant y môr a’r glesyn serennog.

Mae arwyddion ar y llwybr drwyddo draw gyda’r mwyafrif o gerddwyr yn anelu at gwblhau’r ddolen mewn 7-10 diwrnod.

Oriel Môn

Mae Canolfan Celf a Hanes Ynys Môn sydd wedi’i lleoli yn Llangefni yn rhoi cipolwg ar ddiwylliant, hanes ac amgylchedd yr ynys. Mae gan yr Oriel Gelf raglen gyfnewidiol o arddangosfeydd. Mae hefyd yn gartref i gyfres o arddangosfeydd parhaol, gan gynnwys:

 

  • Casgliad mwyaf y byd o weithiau’r arlunydd Cymreig Syr Kyffin Williams.
  • Gweithiau’r arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe
Canolfan Ucheldre

Prif ganolfan gelf gymunedol Ynys Môn, sy’n gartref i gyngherddau, drama, ffilm, digwyddiadau llenyddol ac arddangosfeydd celf. Mae yna fwyty, siop a gardd hefyd.

Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr RSPB Clogwyni Ynys Lawd

Mae gwarchodfa natur RSPB Goleudy Ynys Lawd a Thŵr Elin wedi’u gosod ar y clogwyni môr dramatig lle gellir gweld gwylogod, gwalch y penwaig, y pâl a’r fran goesgoch brin.

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Agorodd y parc ym 1990 ar safle hen chwarel a gyflenwodd y cerrig ar gyfer y Morglawdd 1.5 milltir, yr hiraf yn Ewrop. Ymhlith y cyfleusterau mae llwybrau, Canolfan Wybodaeth, Siop, Caffi, Toiledau Cyhoeddus a digon o le i barcio. Ar agor trwy’r flwyddyn.

Cytiau Tŷ Mawr

Mae’r grŵp hwn o sylfeini cytiau crwn hynafol wrth ymyl fferm Tŷ Mawr gerllaw Ynys Lawd, wedi’u cloddio a’u cynnal yn ofalus gan Cadw. Gallwch gerdded y tu mewn i’r cytiau, gweld y waliau cerrig, a meddwl tybed sut beth oedd bywyd yno.

Melin Llynnon

Wedi’i hadeiladu ym 1775, dyma’r unig felin wynt weithredol sydd wedi goroesi yng Nghymru, wedi’i lleoli ar gyrion Llanddeusant ar Ynys Môn, a adferwyd yn hyfryd gan y cyngor lleol ym 1986 i gynhyrchu blawd a falwyd â maen.

Amgueddfa Forwrol Caergybi

Cymerwch gam yn ôl mewn amser yn yr orsaf bad achub hynaf yng Nghymru i ddysgu am longddrylliadau, achubiadau dewr a môr-ladron.

I gael rhagor o wybodaeth am leoedd y gallwch ymweld â nhw, ewch i wefan Croeso Môn.